- Adnoddau ar gyfer pobl sydd yn derbyn mentora
- Adnoddau ar gyfer mentoriaid
- Gwybodaeth Defnyddiol
- Adnoddau eraill
- Regional events
Mentora yn gryno
Mae’r berthynas mentora yn wirfoddol i’r ddau barti ac, er ei fod fel arfer wedi ei ddylunio ar gyfer cyfnod set o sesiynau, gellir ei ddwyn i ben ar unrhyw adeg gan y naill barti neu’r llall.
Mae mentora yn:
- berthynas un wrth un dros gyfnod o amser rhwng person llai profiadol (person sy’n derbyn mentora) a pherson proffesiynol profiadol (person sy’n mentora), sy’n darparu cefnogaeth a chanllaw cyson, a help ymarferol
- proses lle mae person proffesiynol yn rhannu ei sgiliau personol, gwybodaeth ac arbenigedd gyda pherson arall
- modd o alluogi person llai profiadol i ennill y sgiliau, gwybodaeth a hyder angenrheidiol i fedru perfformio ar lefel uwch
- cyfle i berson llai profiadol i gael cefnogaeth a chanllaw diduedd, di-farn
- proses o gydweithio i gyrraedd nodau ac amcanion gosodedig
- proses dwy ffordd y mae’r naill barti ‘r llall yn cael boddhad o’r cynnydd, a’r llwyddiant sydd yn dod yn sgil cyd-weithio.
Ffynhonnell: An Introduction to Enterprise Mentoring © SFEDI Group & Essential Business, 2011