Adnoddau ar gyfer pobl sydd yn derbyn mentora
Adnoddau ar gyfer mentoriaid
Adnoddau eraill
Gwybodaeth Defnyddiol
Regional events

Sut i baratoi cynlluniau busnes

P’un ai a ydych yn fusnes newydd neu’n un sydd wedi ymsefydli, mi ddylai fod gyda chi gynllun busnes sydd yn esblygu’n barhaus er mwyn eich helpu i ddiffinio eich amcanion cyfredol a’ch strategaethau i’w cyflawni.

Mae perchnogion busnes yn gwneud y camgymeriad yn aml o feddwl mai unig bwrpas cynllun busnes yw cael cyllid. Fodd bynnag, gall cynllun busnes da wneud llawer yn rhagor.

Gall eich helpu i:

  • Adnabod eich pwrpas busnes yn glir  a chyfathrebu’r pwrpas hwnnw
  • Dod a’ch syniadau a’ch gwaith  ymchwil ynghyd mewn i ffurf strwythuredig
  • Adnabod unrhyw waith ymchwil pellach sydd ei angen
  • Amlinellu cryfderau a gwendidau eich tîm rheoli.
  • Gosod targedau ac amcanion
  • Monitro eich perfformiad busnes  yn rheolaidd a lliniaru materion ac adnabod cyfleoedd i drosoleddi eich cyllid yn fwy effeithiol

Dylai eich cynllun busnes ddarparu’r dystiolaeth bod gan eich menter y potential
i fod yn llwyddiant. Dylai gynnwys:

1. Trosolwg o’ch busnes
Beth yw’r syniad sylfaenol? O ble ddaeth y syniad? Pam i chi yn credu y bydd yn gweithio? Dylai’r trosolwg grynhoi prif bwyntiau eich cynllun, gan arddangos uchafbwyntiau pob adran a chanolbwyntio ar eich mantais gystadleuol, darogan elw, faint sydd ei angen arnoch a’r rhagolwg i fuddsoddwyr.

2. Manylion statws cyfreithiol y busnes, pobl allweddol, nodau ac amcanion
Un o’r ystyriaethau cyntaf cyn cychwyn busnes  newydd yw penderfynu pa ffurf y bydd yn cymryd.
A ddylech chi strwythuro eich busnes newydd fel cwmni cyfyngedig neu unig
fasnachwr? Pa effaith bydd eich penderfyniad yn cael ar eich sefyllfa dreth? Pe baech chi yn sefydlu partneriaeth fusnes, beth yw’r elfennau gofynnol partneriaeth o’r fath?
Beth fyddwch yn atebol yn bersonol amdano, a byddwch chi yn medru cyflogi eraill?
Mae gan bob strwythur fusnes ei fuddion a chyfyngiadau gwahanol, felly mae’n bwysig dysgu beth sydd ganddynt oll i’w cynnig.

3. Manylion y cynhyrchion a/ neu wasanaethau bydd eich busnes yn darparu

Mewn geiriau eraill, beth mae eich busnes yn ei wneud. Dylai ymdrin â’r math o fusnes a pha sector mae o’i mewn,  pryd i chi yn bwriadu cychwyn masnachi, beth sy’n gwneud eich cynnyrch neu wasanaeth yn unigryw, sut bydd cynhyrchion yn cael eu datblygu, ac unrhyw batent, nodau masnach neu hawliau dylunio sydd yn eich meddiant.

4. Manylion nodweddion eich cwsmeriaid targed ac amcangyfrif rhif
Mae’n bwysig i chi ddewis eich targed farchnad yn ofalus. Peidiwch â cheisio gwerthu i bawb. Canolbwyntiwch ar grŵp cwsmer penodol. Ystyriwch anghenion y cwsmeriaid a sut mae eich cynnyrch yn cwrdd â’r anghenion hynny. Ategwch hwn gyda gwaith ymchwil.

5. Asesiad o gryfderau a gwendidau eich cystadleuwyr a sut mae eich busnes
 yn wahanol i’r gystadleuaeth
Sut mae eich cynnyrch yn ei gymharu gyda’r hyn sydd yn cael ei gynnig yn barod?
Beth fydd yn eich gwahaniaethu? A oes gyda chi rywbeth nad oes gan eich cystadleuwyr? Gall eich cystadleuwyr ymateb i’ch mynediad i’r farchnad drwy ostwng prisiau neu wella eu marchnata neu wasanaeth. Ystyriwch sut y gallai hyn effeithio ar eich cynllun.

6. Manylion ar sut i chi yn bwriadu marchnata eich busnes
Y manylion yn ymdrin â sut y byddwch yn gwerthu eich cynnyrch neu wasanaeth.
Manylwch y prisio, maint elw, hyrwyddo a lleoliad eich cynnyrch, sut byddwch yn
cyrraedd eich cwsmeriaid, a’ch dull gwerthiant dewisedig a allai gynnwys marchnata, PR a masnachi ar lein.

7. Ble a sut bydd eich busnes yn gweithredu
Gall lleoliad fod yn allweddol i lwyddiant busnes. Gall y penderfyniad fod yn un
syml neu efallai bod angen i chi bwyso a mesur eich opsiynau. Mae’r ffactorau sydd raid eu hystyried yn cynnwys cost,  traffig cwsmer, trafnidiaeth a dosbarthiad a staff. A fydd angen mangre arnoch,  a fyddwch chi yn gweithio o adref a / neu byddwch chi yn masnachi ar lein?

8. Eich gofynion ariannol, gan gynnwys faint o arian sydd ei hangen a phryd fydd ei angen
Bydd angen i chi ddangos:

  • Pa gyfalaf i chi ei angen
  • Unrhyw sicrwydd ariannol allwch ei  gynnig i fenthycwyr
  • Sut i chi yn bwriadau ad-dalu  benthyciadau
  • Ffynonellau cyllid ac incwm
  • Rhagolwg buddsoddwyr neu fenthycwyr

Yn ychwanegol i hyn, bydd angen llif arian, 
elw a cholled, rhagolygon gwerthiant arnoch chi. Bydd cynllun busnes craff hefyd
yn manylu’r rhagdybiaethau tu ôl i’r rhagolygon a’r risgiau a allai effeithio ar y ffigurau hynny.