About Mentorsme
Enterprise Mentoring Awards 2015
Enterprise Mentoring Awards 2014
Enterprise Mentoring Awards 2013

Amdanom ni

Mentorsme.co.uk yw’r porth ar lein gyntaf Prydain ar gyfer mentrau bychain a maint canolig sydd yn edrych am wasanaethau mentor

Mae’r safle rhad ac am ddim yn cynnig mynediad at restr o sefydliadau mentora sydd â sicrwydd ansawdd ar draws Prydain. Mae chwilotwr hawdd ei ddefnydd yn galluogi busnesau i fireinio eu chwiliadau yn unol â chyfnod oes ei busnes a’i lleoliad o fewn Prydain.

Ein hamcan yw helpu busnesau i ddarganfod sefydliad mentora sy’n addas i’w anghenion mewn modd cyflym a hawdd.

Mae’r safle hefyd yn galluogi pobl busnes proffesiynol i gynnig eu gwasanaethau fel mentor busnes drwy’r sefydliadau sy’n cael eu rhestri. Efallai y bydd darpar fentoriaid am weithio mewn rhan benodol o Brydain ac yn medru cynnig maes arbennig o arbenigedd. Mae ein chwilotwr yn eu galluogi hwy i leoli sefydliadau mentora sydd yn gweddu orau i’w proffil.

Mae Mentorsme.co.uk hefyd yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am fuddion mentora busnes drwy ei lyfrgell o adnoddau ar lein, sydd yn cynnwys erthyglau am fentora ac achosion astudiaeth o berthnasau mentora busnes llwyddiannus.

Gweithredir Mentorsme.co.uk gan Business Finance Taskforce, sydd wedi ei sefydlu gan y British Bankers’ Association ac yn cynnwys pum banc: Barclays, HSBC, Lloyds Banking Group, Royal Bank of Scotland a Santander. Sefydlwyd y tasglu i helpu busnesau i gael mynediad at y cyllid y maent eu hangen i dyfu.

Sut i ddod yn rhan o mentorsme.co.uk

Bwriad y Porth yw darparu’r sawl sydd â diddordeb gyda chwilotwr sengl, hawdd ei ddefnyddio i leoli mudiadau sy’n darparu gwasanaethau mentora i fusnesau bach a’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn cychwyn busnes.

Ein nod yw darparu defnyddwyr gyda mynediad o dan yr un ymbarél at yr holl fudiadau a rhwydweithiau mentora sy’n bodoli eisoes, a hynny tra’n ceisio ymatal rhag dyblygu neu gystadlu gyda’r adnabyddiaeth, perthnasau a gwasanaethau y mae mudiadau o’r fath yn eu darparu eisoes.

Os oes gan eich mudiad ddiddordeb mewn ymuno gyda’r porth, yna darllenwch y nodiadau canllaw isod os gwelwch yn dda cyn cwblhau’r holiadur.
 
Asesir eich cais gan SFEDI.

Sefydlwyd SFEDI yn 1996 gan fel yr Enterprise Standards Setting Body, ac mae’n gyfrifol am ymchwilio, datblygu, cynnal a sicrhau ansawdd safonau unigol a mudiad ar gyfer Mentora Busnes. Mae SFEDI wedi bod yn gweithio i ddatblygu fframwaith sicrwydd ansawdd ar gyfer Mudiadau Mentora sy’n ymddangos ar mentorsme.co.uk ac mae nawr wedi ei apwyntio i gynnal yr asesiad yn erbyn y safonau yma. 

Nodiadau canllaw ar gyfer cwblhau’r holiadur.

  • Mae Mentorsme.co.uk yn croesawu ceisiadau gan fusnesau sydd yn darparu gwasanaethau mentora
  • A wnewch chi sicrhau wrth gwblhau eich cais eich bod wedi ystyried diffiniad mentorsme o fentora, sydd fel a ganlyn
  • A’ch bod yn gallu darparu tystiolaeth o’r ffaith bod eich mudiad yn darparu gwasanaeth o’r fath
  • Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’r ffaith bod gyda chi fentoriaid sydd yn meddu ar arbenigedd mewn mentora busnesau bach. Bydd hwn yn cynnwys rhaglen rymus a pherthnasol o ddewis, rhaglen hyfforddi ac anwytho
  • Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddigonol o gyflwyno cynnig mentora o ansawdd cyson
  • Mae’n bwysig fod gyda chi ddigon o fentoriaid o fewn eich mudiad i fedru ymateb i geisiadau am wasanaethau mentora gan nifer mawr o bobl sydd am dderbyn mentora
  • Mae rhwydd hynt i chi gynnwys tystiolaeth bellach a all gefnogi eich cais - astudiaethau achos, geirda, cod ymddygiad ayb
  • Bydd eich holiadur gorffenedig yn cael ei ddanfon ymlaen at SFEDI a fydd yn asesu eich cais yn erbyn y safonau ansawdd sydd wedi eu gosod ar gyfer mentorsme.co.uk
  • Bydd asesiad SFEDI i gychwyn yn cymryd yr ymatebion a roddwyd i’r cwestiynau a ofynnwyd o fewn yr holiadur, tystiolaeth ychwanegol a gyflwynwyd i gefnogi’r ymatebion, y wybodaeth sydd ar gael i’w weld ar eich gwefan fusnes a’r rhestr wirio hunan ardystiedig
  • Bydd y broses asesiad yn cymryd rhwng 4/5 wythnos.

Lawrlwythwch a chwblhewch yr holiadur ac yna ei ddychwelyd i: media@betterbusinessfinance.co.uk.