Sut wyf yn dod yn fentor?

C. A ydych chi yn edrych i droi eich busnes i mewn i fudiad fentora?

A. Cysylltwch gyda’r Small Firms Enterprise Development Initiative Ltd (SFEDI) http://www.sfedi.co.uk

C. A ydych chi yn fusnes â gweithwyr sydd â diddordeb mewn dod yn fentoriaid?

A. Gall y fenter Get Mentoring eich helpu: http://www.getmentoring.org

C. A ydych chi’n unigolyn sydd yn chwilio am hyfforddiant rhad ac am ddim fel y gallwch fentora?

A. Gall y fenter Get Mentoring eich helpu: http://www.getmentoring.org

Dilynwch y tri cham yma:

  1. Lawr llwythwch y swydd ddisgrifiad a’r rhestr wirio beth ddylech ei wneud a beth na ddylech ei wneud, sydd yn amlinellu rôl mentor.
  2. Defnyddiwch y cyfarpar chwilio ar yr ochr chwith i ganfod cymdeithas mentora yn agos atoch i chi yn credu sydd yn cwrdd â’ch anghenion:
    • Sylwer y bydd gan y sefydliadau mentora eu dull ac ystyriaethau eu hunain tuag at gyflogi mentoriaid:
    • Ni fydd yr holl sefydliadau mentora yn cyflogi ar hyn o bryd gan fod angen iddynt ymateb i alw’r farchnad am eu gwasanaethau..
    • Gall costau rheoli mentoriaid fod yn ystyriaeth – nid pob sefydliad mentora sydd yn gallu ariannu estyniad o’u gallu mentora yn hawdd.
    • Bydd gan bob sefydliad mentora ei raglen sefydlu ei hunain y bydd disgwyl i chi ei ddilyn.
  3. Profwch i’ch cymdeithas mentora bod gyda chi’r sgiliau perthnasol, gwybodaeth, a phrofiad proffesiynol. Gallwch wneud hyn drwy argymhelliad, hunan asesiad, achrediad, cymwysterau neu drwy gwblhau rhaglen gydnabyddedig..

Mae Get Mentoring yn fenter i agor, hyfforddi a chefnogi cymuned o fentoriaid busnes ar draws y DU. Ei nod yw recriwtio a hyfforddi miloedd o fentoriaid o’r gymuned fusnes.

Darllenwch ragor am y prosiect Get Mentoring yma.

Rhannwch eich arbenigedd

A ydych yn berson busnes proffesiynol sydd yn medru cynnig cymorth a chanllaw i fusnes sy’n tyfu? Os felly, defnyddiwch ein chwilotwr safle i gael mynediad i sefydliadau mentora mae ei hansawdd wedi ei sicrhau yn eich ardal y gallwch ymuno fel mentor busnes.