Adnoddau ar gyfer pobl sydd yn derbyn mentora
Gwybodaeth Defnyddiol
Astudiaethau achos
Adnoddau ar gyfer mentoriaid
Adnoddau eraill
Regional events

Gweithwyr banc yn gwirfoddoli i fentora busnesau am ddim

Mae tua 250 o’r mentoriaid busnes sydd ar gael drwy’r mentorsme.co.uk naill ai yn gweithio neu wedi gweithio i fanciau’r stryd fawr ac wedi gwirfoddoli eu hamser am ddim.

Mae nifer o’r gwirfoddolwyr yma yn neu yn gyn rheolwyr perthynas, ond mae’r grŵp hefyd yn cynnwys arbenigwyr mewn meysydd megis marchnata ac Adnoddau Dynol.

Gall busnesau gael mynediad i’r mentoriaid busnes banc yma drwy rhai o’r sefydliadau mentora di-elw sydd wedi eu rhestri ar mentorsme.co.uk.

Mae’r gwirfoddolwyr yma i gyd yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant trylwyr sydd yn cael ei reoli’n annibynnol oddi wrth y banciau gan y SFEDI, yr UK Skills Sector Body for Enterprise and Business Support. Mae’r rhaglen yn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi mewn cyfathrebu, materion iechyd a diogelwch, cyllido a chyfrifon, ymchwil marchnad, gwasanaeth cwsmer a marchnata.

Yn dilyn y rhaglen hyfforddiant SFEDI, ceir hyfforddiant cynefino gan y sefydliad mae pob mentor wedi cyfuno gyda.

Unwaith bod gwirfoddolwyr wedi derbyn digon o brofiad mentora busnes, gallant gael eu hachredu drwy ennill tystysgrif broffesiynol sydd yn cael ei gydnabod yn genedlaethol.

Bydd hyd at 1,000 o fentoriaid busnes banc yn cael eu recriwtio a’u hyfforddi i gynnig eu gwasanaeth drwy mentorsme.co.uk yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun.

Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio o bum banc y stryd fawr - Barclays, HSBC, Lloyds Banking Group a Santander - sydd yn gwneud i fyny’r Business Finance Taskforce. Y tasglu yw’r corff sy’n gweithredu’r mentorsme.co.uk.