Adnoddau ar gyfer pobl sydd yn derbyn mentora
Adnoddau ar gyfer mentoriaid
Gwybodaeth Defnyddiol
Adnoddau eraill
Regional events

Pethau y dylid eu gwneud a phethau na ddylid eu gwneud o ran mentora

Mae yna rai rheolau sylfaenol i fod yn fentor effeithiol. Os ddilynwch y rhain, rydych yn debygol o ddatblygu perthynas mentora da a fydd yn sicrhau llwyddiant.

Gwnewch

  • Ddarparu persbectif allanol o berchennog y busnes a’i busnes
  • Wrando, yn gyfrinachol, i’r materion sydd yn pryderu’r perchennog busnes am ei gwmni
  • Helpu drwy rannu eich profiadau eich hunan am lwyddiannau a methiannau
  • Rhoi cefnogaeth a chyfarwyddid cyfeillgar, diduedd
  • Ddarparu adborth gonest ac adeiladol
  • Fod yn fwrdd swnio ar gyfer syniadau
  • Hwyluso gwneud penderfyniadau drwy gynnig enghreifftiau eraill sy’n seiliedig ar brofiadau personol
  • Gyflenwi cysylltiadau a rhwydweithiau i ddatblygu datblygiad personol a busnes
  • Ysbrydoli’r cleient i gyrraedd eu potensial
  • Roi cefnogaeth a datblygiad parhaus
  • Lle bo’n briodol, geisio cyngor neu gyfeirio’r person sy’n derbyn mentora ymlaen at bwynt cyswllt arall
  • Amlygu unrhyw faterion moesegol gall godi

Peidiwch â

  • Darparu gwasanaeth cwnsela
  • Rhoi cyngor busnes technegol penodol a fyddai fel arfer yn cael ei ddarparu gan gynghorydd busnes arbenigol
  • Cyflenwi gwasanaeth hyfforddiant
  • Darparu gwasanaeth hyfforddi (sy’n berthnasol i dasgau, bwriadu neu amcanion penodol busnes)
  • Darparu ymyraethau therapiwtig
  • Dwyn y cyfrifoldeb am lwyddiant i ffwrdd oddi wrth y perchennog busnes
  • Ymyrryd mewn ardaloedd mae’r person sy’n derbyn mentora am gadw’n breifat
  • Chreu dibyniaeth