Pethau y dylid eu gwneud a phethau na ddylid eu gwneud o ran mentora
Mae yna rai rheolau sylfaenol i fod yn fentor effeithiol. Os ddilynwch y rhain, rydych yn debygol o ddatblygu perthynas mentora da a fydd yn sicrhau llwyddiant.
Gwnewch
Ddarparu persbectif allanol o berchennog y busnes a’i busnes
Wrando, yn gyfrinachol, i’r materion sydd yn pryderu’r perchennog busnes am ei gwmni
Helpu drwy rannu eich profiadau eich hunan am lwyddiannau a methiannau
Rhoi cefnogaeth a chyfarwyddid cyfeillgar, diduedd
Ddarparu adborth gonest ac adeiladol
Fod yn fwrdd swnio ar gyfer syniadau
Hwyluso gwneud penderfyniadau drwy gynnig enghreifftiau eraill sy’n seiliedig ar brofiadau personol
Gyflenwi cysylltiadau a rhwydweithiau i ddatblygu datblygiad personol a busnes
Ysbrydoli’r cleient i gyrraedd eu potensial
Roi cefnogaeth a datblygiad parhaus
Lle bo’n briodol, geisio cyngor neu gyfeirio’r person sy’n derbyn mentora ymlaen at bwynt cyswllt arall
Amlygu unrhyw faterion moesegol gall godi
Peidiwch â
Darparu gwasanaeth cwnsela
Rhoi cyngor busnes technegol penodol a fyddai fel arfer yn cael ei ddarparu gan gynghorydd busnes arbenigol
Cyflenwi gwasanaeth hyfforddiant
Darparu gwasanaeth hyfforddi (sy’n berthnasol i dasgau, bwriadu neu amcanion penodol busnes)
Darparu ymyraethau therapiwtig
Dwyn y cyfrifoldeb am lwyddiant i ffwrdd oddi wrth y perchennog busnes
Ymyrryd mewn ardaloedd mae’r person sy’n derbyn mentora am gadw’n breifat