Adnoddau ar gyfer pobl sydd yn derbyn mentora
Gwybodaeth Defnyddiol
Astudiaethau achos
Adnoddau ar gyfer mentoriaid
Adnoddau eraill
Regional events

Darganfod mentor - rhoi cychwyn arni

Mae mentorsme.co.uk wedi ei ddylunio i’ch helpu i ddarganfod mentor busnes mewn modd cyflym a hawdd, ond efallai bod gennych rhai cwestiynau cyn eich bod yn cychwyn. Os na allwch ganfod yr hyn yr ydych yn chwilio amdano yn yr ymatebion isod, gallwch gysylltu drwy e-bostio Cysylltu â ni

C: Rwy’n credu bod angen mentor busnes arnaf ond nid wyf yn siŵr. Sut wyf yn penderfynu?
A: Dim ond y chi all benderfynu os mai cael mentor busnes yw’r opsiwn cywir ond ar gyfnodau penodol o gylchdro bywyd busnes, gall mentor fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o gefnogaeth a chyfarwyddid. Er enghraifft, os yw eich busnes yn profi cyfnod o dyfiant cyflym neu os yw cais eich busnes am gyllid wedi ei droi lawr, gall mentor roi cefnogaeth i chi a’ch busnes drwy’r cyfnod hwnnw ac i’r lefel nesaf o ddatblygiad. Mae’r busnesau sydd yn ceisio cyfarwyddid a chefnogaeth, yn enwedig yn ystod y misoedd cyntaf o fasnachi, yn fwy tebygol o oroesi a llwyddo.

C: Pa gefnogaeth a chyfarwyddid gall mentor busnes gynnig i fi?
A: Mae mentor fel arfer yn berson sydd â chryn brofiad busnes neu yn arbenigwr o fewn maes busnes arbennig, megis cyllid neu farchnata. Gall ef / hi rhoi cefnogaeth a’ch llywio mewn nifer o ffyrdd: drwy ddarparu adborth gonest ac adeiladol; drwy fod yn fwrdd seinio ar gyfer eich syniadau; neu drwy wrando, yn gyfrinachol, i’r pethau hynny sy’n eich pryderi am eich busnes. Nid yw mentoriaid busnes yn rhoi cyngor busnes technegol penodol; yn darparu gwasanaeth cwnsela; neu yn darparu gwasanaeth hyfforddiant. Am fwy o fanylion ar beth y gallwch ddisgwyl a beth na fedrwch ei ddisgwyl oddi wrth fentor busnes,  cliciwch yma.

C: Sut gall mentorsme.co.uk fy helpu i ganfod mentor busnes?
A: Mae Mentorsme.co.uk yn borth ar lein gall eich rhoi mewn cysylltiad gyda sefydliadau mentora â sicrwydd ansawdd ar draws Prydain. Yn seiliedig ar gyfnod datblygiad eich busnes a lle rydych wedi eich lleoli, gall ein canfyddwr mentor eich darparu gyda rhestr o sefydliadau mentora a fydd o bosib yn gallu eich helpu chi. Mae’r rhan nesaf i fyny i chi. Cysylltu gydag unrhyw un o’r sefydliadau yma i ddarganfod mentor busnes fydd eich cam cyntaf. Bydd y sefydliad mentora i chi yn cysylltu gydag ef am ddarganfod rhagor am eich busnes a beth i chi yn edrych amdano oddi wrth fentor. Bydd hwn yn eu helpu i’ch rhoi mewn cysylltiad gyda’r person cywir o’u rhwydwaith helaeth o fentoriaid.

C: Beth fydd y sefydliad mentora yn gofyn i fi?
A: Os ydych wedi cyrraedd y cam o gysylltu gyda sefydliad sy’n mentora, mae’n debygol eich bod yn cael profiad busnes i chi yn credu bod angen help arnoch i ymdrin ag ef. Ceisiwch fod yn glir ynghylch y materion yma. Efallai nad ydych yn credu fod gennych y tîm cywir i’ch helpu i dyfu, neu efallai eich bod am gynyddu proffil eich busnes yn eich ardal.
Efallai y gofynnir i chi os ydych am dderbyn mentora wyneb-i-wyneb, neu dros y ffôn neu e-bost, ac os hoffech dderbyn mentora ffurfiol neu anffurfiol. Dylech roi ystyriaeth i’r rhain o flaen llaw.

C: Beth yw’r gwahaniaeth rhwng mentora ffurfiol ac anffurfiol?
A: Mae mentora ffurfiol yn cyfeirio at broses o gefnogaeth sydd wedi ei sefydlu mewn modd swyddogol a gall fod yn rhan o raglen mentora strwythuredig eangach. Mae mentora anffurfiol yn ymwneud â gweithio gyda busnesau drwy gymdeithasau rhwydweithio, argymhelliad, grwpiau cyfeillgarwch, ar lein neu drwy gyfeiriadaeth eiriol. Gall y ddau fath fod yr un mor werthfawr i’ch busnes.

C: Bydd rhaid i mi dalu am fy mentor busnes?
A: Mae Mentorsme.co.uk yn rhestri sefydliadau masnachol a dielw. Bydd sefydliadau masnachol yn codi tâl am amser ac arbenigedd eu mentoriaid. Bydd pob sefydliad yn codi prisoedd amrywiol. Os ydych â diddordeb mewn defnyddio sefydliad mentora masnachol, dylech sicrhau eich bod yn deall eu costau’n glir cyn ymrwymo i dalu am fentor.
Nid yw sefydliadau dielw fel arfer yn codi am eu gwasanaethau er efallai y byddwch yn darganfod bod rhai ohonynt yn codi, am er enghraifft, ffi aelodaeth blynyddol bychan.

C: Sut wyf yn gwybod os yw’r sefydliadau mentora ar mentorsme.co.uk yn rhai cyfrifol?
A: Mae’r holl sefydliadau mentora sydd yn cael eu cynnwys ar mentorsme.co.uk wedi eu sefydlu ac mae ganddynt rwydweithiau mentor helaeth, maent hefyd yn helpu busnesau sy’n ceisio cefnogaeth. Fel amod o gael eu cynnwys ar y porth, mae pob sefydliad wedi cytuno i gyfres o safonau ansawdd mentora, sy’n ymdrin gyda materion megis diogelu data a chyfrinachedd. Mae cytundeb i gydymffurfio gyda’r safonau yma yn cael ei geisio’n flynyddol. Yn ychwanegol, rhaid i bob sefydliad mentora basio’r gwiriadau credyd a diogelwch arferol cyn cael eu rhestri ar y porth.

C: Faint o gysylltiad gallai ddisgwyl ei gael gyda’m mentor busnes?
A: Mae i fyny i chi a’ch mentor unigol i gynhyrchi amserlen sydd yn addas i’r ddau ohonoch ond bydd mentor, fel arfer, yn gwario tua diwrnod y mis gyda chi.

C: Pa mor hir gallaf ddisgwyl gael fy mentora?
A: Mae hyn yn dibynnu ar ba mor hir mae’n cymryd i chi fynd i’r afael gyda’r materion yr hoffech i’ch mentor busnes roi cefnogaeth i chi arno. Efallai y bydd ond angen i chi dderbyn mentora am gwpwl o fisoedd neu gall y berthynas mentora dreulio rhai blynyddoedd ymestyn dros nifer o flynyddoedd.

C: Gall unrhyw fusnes ddarganfod mentor drwy mentorsme.co.uk?
A: Gall. Mae’r porth ar gael i holl fusnesau’r DU ond mae’n debygol mai’r mentrau bychain a maint canolig fydd yn cael y budd mwyaf o ddarganfod mentor drwy’r porth.