Adnoddau ar gyfer pobl sydd yn derbyn mentora
Adnoddau ar gyfer mentoriaid
Gwybodaeth Defnyddiol
Adnoddau eraill
Regional events

Mentora yn gryno

Mae’r berthynas mentora yn wirfoddol i’r ddau barti ac, er ei fod fel arfer wedi ei ddylunio ar gyfer cyfnod set o sesiynau, gellir ei ddwyn i ben ar unrhyw adeg gan y naill barti neu’r llall.

Mae mentora yn:

  • berthynas un wrth un dros gyfnod o amser rhwng person llai profiadol (person sy’n derbyn mentora) a pherson proffesiynol profiadol (person sy’n mentora), sy’n darparu cefnogaeth a chanllaw cyson, a help ymarferol
  • proses lle mae person proffesiynol yn rhannu ei sgiliau personol, gwybodaeth ac arbenigedd gyda pherson arall
  • modd o alluogi person llai profiadol i ennill y sgiliau, gwybodaeth a hyder angenrheidiol i fedru perfformio ar lefel uwch
  • cyfle i berson llai profiadol i gael cefnogaeth a chanllaw diduedd, di-farn
  • proses o gydweithio i gyrraedd nodau ac amcanion gosodedig
  • proses dwy ffordd y mae’r naill barti ‘r llall yn cael boddhad o’r cynnydd, a’r llwyddiant sydd yn dod yn sgil cyd-weithio.

Ffynhonnell: An Introduction to Enterprise Mentoring © SFEDI Group & Essential Business, 2011