Rydych wedi bod mewn busnes am nifer o flynyddoedd neu efallai bod gennych gryn wybodaeth busnes ac rydych yn dymuno rhannu'r hyn i chi wedi ei ddysgu gydag eraill.
Efallai mai mentora yw’r ateb. Ond yn gyntaf, efallai bod gyda chi nifer o gwestiynau i’w gofyn. Os nad ydynt yn cael eu hateb isod, cysylltwch ag contact us.
C. Pa brofiad sydd angen arnaf i ddod yn fentor?
A. Mae mentor fel arfer yn berson sydd â chryn brofiad busnes neu sydd yn wybodus mewn maes arbennig, megis cyllid.
C. Pam ddylwn ddod yn fentor?
A. Mae eich gwybodaeth busnes yn eich rhoi mewn safle cryf i roi cefnogaeth i’r genhedlaeth nesaf o fusnesau a chwarae rôl allweddol mewn helpu busnesau’r DU i dyfu, a fydd yn ei dro yn rhoi hwb i’r siawns o adfywiad economaidd. Yn ychwanegol, byddwch yn derbyn dealltwriaeth eangach o’r materion a heriau sydd yn wynebu busnesau bychain, a fydd yn mwyhau eich bywyd busnes a’ch rhagolwg.
Ac yn olaf, ynghyd ag ymuno gyda chymuned mentora eangach a chael eich cyfraniad wedi ei gydnabod, byddwch yn ennill cymhwyster cydnabyddedig (ewch at ‘Pa hyfforddiant gallaf ddisgwyl ei dderbyn?’ isod).
C. Sut wyf yn dod yn fentor?
A. Dilynwch y tri cham yma:
1. Lawr llwythwch y swydd ddisgrifiad a’r rhestr wirio beth ddylech ei wneud a beth na ddylech ei wneud, sydd yn amlinellu rôl mentor.
2. Cysylltwch gyda chymdeithas mentora i chi yn credu sydd yn cwrdd â’ch anghenion cliciwch yma. Gallwch ddarganfod am y sefydliadau mentora sydd wedi eu partneri gyda mentorsme.co.uk drwy bori drwy’r amryw safleoedd. Sylwer y bydd gan y sefydliadau mentora eu dull ac ystyriaethau eu hunain tuag at gyflogi mentoriaid:
C. Pa hyfforddiant gallaf ddisgwyl ei dderbyn?
A. Bydd gan bob sefydliad mentora ei raglen ei hun o hyfforddiant felly bydd yr hyfforddiant i chi yn ei dderbyn yn dibynnu ar y sefydliad i chi yn penderfynu ymuno gydag ef. Os yw hyfforddiant yn faes pwysig i chi, sicrhewch eich bod yn ei drafod gyda’r sefydliad i chi wedi penderfynu ymuno gyda cyn eich bod yn ymrwymo i ymuno gyda’i rhwydwaith o fentoriaid.
Efallai y bydd rhai o’r sefydliadau mentora yn dewis rhoi’r bobl maent yn eu recriwtio drwy broses hyfforddiant megis yr un a weinyddir gan yr SFEDI, corff a gydnabyddir gan y llywodraeth ac sydd yn gosod safonau mentora menter yn y DU. Mae’r hyfforddiant yn ymdrin â phopeth o ofynion cyfreithiol a moesegol mentora, i agweddau ariannol rhedeg busnes a dealltwriaeth o hawliadau gwahanol sydd yn wynebu mentrwr, ynghyd â darparu’r sgiliau i reoli’r berthynas mentora.
Os ydych yn gyflogai neu yn gyn gyflogai un o’r banciau sydd yn rhan o’r Business Finance Taskforce - y corff sydd y tu ôl i’r mentorsme.co.uk - byddwch yn cael eich hyfforddi gan SFEDI. Barclays, HSBC, Lloyds Banking Group, Royal Bank of Scotland a Santander yw’r banciau sydd yn cymryd rhan yn y Business Finance Taskforce.
C. Pa fath o help bydd busnesau eu hangen?
A. Bydd cwmnïau yn ceisio mynediad at ystod eang o gefnogaeth. Efallai byddant newydd gychwyn, yn tyfu wedi sefydlu neu yn meddwl gwerthu. Eich rôl yw darparu cefnogaeth effeithiol y bydd yn rhoi’r hyder i berchennog busnes i symud ymlaen gyda’i gynlluniau. Gallwch wneud hyn drwy rannu eich profiadau, darparu adborth adeiladol neu drwy ymddwyn fel bwrdd swnio ar gyfer syniadau. Am fwy o wybodaeth ar elfennau hanfodol mentora, ewch i Cyflwyniad i Fentora Metnrwr.
C. Pa mor aml bydd mentoriaid yn cwrdd gyda’r bobl sydd yn cael eu mentora?
A. Tra ei fod i fyny i’r unigolion i gytuno ar amserlen addas, byddant fel arfer yn cwrdd yn fisol. Fel arall, efallai byddant yn cadw mewn cysylltiad drwy deleffon neu e-bost, gan ddibynnu ar beth y cytunwyd arno ar y cychwyn.
C. Pa mor hir gallaf ddisgwyl i gefnogi busnes unigol?
A. Mae’r amserlen yn dibynnu. Gall busnes fod angen cymorth am rywbeth o fis neu ddwy i rai blynyddoedd.
C. A fyddai yn gallu cefnogi mwy nag un busnes ar yr un pryd?
A. Byddwch, gallwch gefnogi hyd at dri busnes.